Psalms 22

Cri ingol a chân o fawl

I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw "Ewig y wawr". Salm Dafydd.

1Fy Nuw, fy Nuw,
pam rwyt ti wedi troi dy gefn arna i?
Dw i'n griddfan mewn poen,
pam rwyt ti ddim yn fy achub i?
2Fy Nuw,
dw i'n galw arnat ti drwy'r dydd,
ond dwyt ti ddim yn ateb.
Dw i'n dal ati drwy'r nos
heb orffwys o gwbl.
3Ti ydy'r Duw Sanctaidd!
Rwyt ti'n eistedd ar dy orsedd,
ac yn derbyn mawl pobl Israel.
4Ti oedd ein hynafiaid ni'n ei drystio.
Roedden nhw'n dy drystio di
a dyma ti'n eu hachub nhw.
5Dyma nhw'n gweiddi arnat ti
a llwyddo i ddianc;
Roedden nhw wedi dy drystio di,
a chawson nhw mo'i siomi.
6Dw i'n neb. Pryf ydw i, nid dyn!
Dw i'n cael fy wfftio gan bobl, a'm dirmygu.
7Dw i'n destun sbort i bawb.
Maen nhw'n gwneud ystumiau arna i,
ac yn ysgwyd eu pennau.
8“Mae e wedi trystio'r Arglwydd;
felly gadewch i'r Arglwydd ei achub,
a'i ollwng e'n rhydd!
Mae e mor hoff ohono!”
9Ti ddaeth â fi allan o'r groth.
Ti wnaeth i mi deimlo'n saff ar fron fy mam.
10Dw i wedi dibynnu arnat ti o'r dechrau cyntaf.
Ti ydy fy Nuw i ers i mi gael fy ngeni.
11Paid cadw draw!
Mae helyntion gerllaw
a does gen i neb i'm helpu.
12Mae teirw o'm cwmpas ym mhobman.
Mae teirw cryfion Bashan
22:12 Bashan Y tir i'r dwyrain o'r Afon Iorddonen.
yn fy mygwth.
13Maen nhw'n barod i'm llyncu i,
fel llewod yn rhuo ac yn rhwygo ysglyfaeth.
14Dw i bron marw!
Mae fy esgyrn i gyd wedi dod o'u lle,
ac mae fy nghalon yn wan
fel cwyr yn toddi tu mewn i mi.
15Mae fy egni wedi sychu fel potyn pridd.
Mae fy nhafod wedi glynu i dop fy ngheg.
Rwyt wedi fy rhoi i lwch marwolaeth.
16Mae cŵn wedi casglu o'm cwmpas!
Criw o fwlis yn cau amdana i
ac yn fy nal i lawr gerfydd fy nwylo a'm traed.
17Dw i'n ddim byd ond swp o esgyrn,
ac maen nhw'n syllu arna i a chwerthin.
18Maen nhw'n rhannu fy nillad rhyngddyn nhw,
ac yn gamblo am fy nghrys.
19O Arglwydd, paid ti cadw draw!
Ti sy'n rhoi nerth i mi! Brysia! Helpa fi!
20Achub fi rhag y cleddyf!
Achub fy mywyd o afael y cŵn!
21Gad i mi ddianc oddi wrth y llew!
Achub fi rhag cyrn yr ych gwyllt!
Ateb fi!
22Bydda i'n dweud wrth fy mrodyr sut un wyt ti;
ac yn canu mawl i ti gyda'r rhai sy'n dy addoli.
23Ie, chi sy'n addoli'r Arglwydd, canwch fawl iddo!
Chi ddisgynyddion Jacob, anrhydeddwch e!
Chi bobl Israel i gyd, safwch o'i flaen mewn rhyfeddod!
24Wnaeth e ddim dirmygu na diystyru cri'r anghenus;
Wnaeth e ddim troi ei gefn arno.
Pan oedd yn gweiddi am help,
gwrandawodd Duw.
25Dyna pam dw i'n dy foli di yn y gynulleidfa fawr;
ac yn cadw fy addewidion o flaen y rhai sy'n dy addoli.
26Bydd yr anghenus yn bwyta ac yn cael digon!
Bydd y rhai sy'n dilyn yr Arglwydd yn canu mawl iddo –
Byddwch yn llawen bob amser!
27Bydd pobl drwy'r byd i gyd
yn gwrando ac yn troi at yr Arglwydd.
Bydd pobl y gwledydd i gyd yn ei addoli,
28am mai'r Arglwydd ydy'r Brenin!
Fe sy'n teyrnasu dros y cenhedloedd.
29Bydd pawb sy'n iach yn plygu i'w addoli;
a phawb sydd ar fin marw – ar wely angau –
yn plygu glin o'i flaen!
30Bydd plant yn ei wasanaethu;
a bydd enw'r Arglwydd yn cael ei gyhoeddi
i'r genhedlaeth sydd i ddod.
Byddan nhw'n dweud am ei gyfiawnder
wrth y rhai sydd ddim eto wedi eu geni!
Ie, dweud beth mae e wedi ei wneud!
Copyright information for CYM